Cytundeb Trwydded Defnyddiwr Terfynol

Cytundeb Trwydded Defnyddiwr Terfynol ("Cytundeb")

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Ionawr 2018

Darllenwch y Cytundeb Trwydded Defnyddiwr Terfynol hwn ("Cytundeb") yn ofalus cyn clicio ar y botwm "Rwy'n Cytuno", lawrlwytho neu ddefnyddio BetBlocker ("Cymhwysiad").

Drwy glicio ar y botwm "Rwy'n Cytuno", lawrlwytho neu ddefnyddio'r Cymhwysiad, rydych yn cytuno i ymrwymo i delerau ac amodau'r Cytundeb hwn.

Mae'r Cytundeb hwn yn gytundeb cyfreithiol rhyngoch chi (boed yn unigolyn neu'n endid unigol) a BetBlocker, ac mae'n llywodraethu eich defnydd o'r Cymhwysiad a ddarperir i chi gan BetBlocker.

Os nad ydych yn cytuno â thelerau'r Cytundeb hwn, peidiwch â chlicio ar y botwm "Rwy'n Cytuno" a pheidiwch â lawrlwytho na defnyddio'r Cymhwysiad.

Mae'r Cymhwysiad wedi'i drwyddedu, nid ei werthu, i chi gan BetBlocker i'w ddefnyddio'n gwbl unol â thelerau'r Cytundeb hwn.


 

Trwydded

Mae BetBlocker yn rhoi trwydded gyfyngedig, unigryw, na ellir ei dirymu na'i throsglwyddo, i chi lawrlwytho, gosod a defnyddio'r Cymhwysiad at eich dibenion personol, anfasnachol chi yn unig, yn gwbl unol â thelerau'r Cytundeb hwn.



 

Cyfyngiadau

Rydych yn cytuno i beidio â gwneud y canlynol, nac yn caniatâu i eraill:

‐ drwyddedu, gwerthu, rhentu, prydlesu, aseinio, dosbarthu, trosglwyddo, cynnal, allanoli, datgelu na manteisio'n fasnachol fel arall ar y Cymhwysiad, na chynnig y Cymhwysiad i unrhyw drydydd parti.

‐ copïo na defnyddio'r Cymhwysiad at unrhyw ddiben ac eithrio'r hyn a ganiateir o dan yr adran uchod 'Trwydded'.

‐ addasu, creu gweithiau deilliadol o, dadelfennu, datgryptio, datgrynhoi na gwrth‐beiriannu unrhyw rhan o'r Cymhwysiad.

‐ Tynnu, newid na chuddio unrhyw hysbysiad perchnogol (gan gynnwys unrhyw hysbysiad hawlfraint neu nod masnach) gan BetBlocker na'i endidau cysylltiedig, bartneriaid, cyflenwyr neu drwyddedwyr y Cymhwysiad.



 

Eiddo Deallusol

BetBlocker sydd a'r unig hawl dros y Cymhwysiad, gan gynnwys, heb gyfyngiad, yr holl hawlfreintiau, patentau, nodau masnach, cyfrinachau masnach ac unrhyw hawliau eiddo deallusol eraill, a bydd yn parhau felly.


 

Eich Awgrymiadau

Bydd unrhyw adborth, sylwadau, syniadau, gwelliannau neu awgrymiadau (gyda'i gilydd, "Awgrymiadau") a ddarperir gennych chi i BetBlocker mewn perthynas â'r Cymhwysiad yn parhau i fod yn eiddo unigryw i BetBlocker.

Bydd BetBlocker yn rhydd i ddefnyddio, copïo, addasu, cyhoeddi neu ailddosbarthu'r Awgrymiadau at unrhyw ddiben ac mewn unrhyw ffordd heb roi unrhyw gydnabyddiaeth na thalu unrhyw iawndal i chi.




 

Addasiadau i'r Cymhwysiad

Mae BetBlocker yn cadw'r hawl i addasu, atal neu ddod â'r Cymhwysiad neu unrhyw wasanaeth y mae'n cysylltu ag ef i ben, dros dro neu'n barhaol, gyda rhybudd neu ddim, a heb unrhyw atebolrwydd i chi.




 

Diweddariadau i'r Cymhwysiad

O bryd I'w gilydd, gall BetBlocker ddarparu gwelliannau neu ychwanegiadau i nodweddion/ymarferoldeb y Cymhwysiad, a all gynnwys trwsiadau, atgyweiriadau namau, diweddariadau, uwchraddiadau ac addasiadau eraill ("Diweddariadau").

Gall Diweddariadau addasu neu ddileu rhai nodweddion a/neu swyddogaethau'r Cymhwysiad. Rydych yn cytuno nad oes gan BetBlocker unrhyw rwymedigaeth i (i) ddarparu unrhyw Ddiweddariadau, na (ii) pharhau i ddarparu neu alluogi unrhyw nodweddion a/neu swyddogaethau penodol y Cymhwysiad i chi.

Rydych hefyd yn cytuno y bydd yr holl Ddiweddariadau (i) yn cael eu hystyried yn rhan annatod o'r Cymhwysiad, ac (ii) yn ddarostyngedig i delerau ac amodau'r Cytundeb hwn.




 

Gwasanaethau Trydydd Parti

Gall y Cymhwysiad arddangos, cynnwys neu sicrhau bod cynnwys trydydd parti ar gael (gan gynnwys data, gwybodaeth, cymwysiadau a chynhyrchion neu wasanaethau eraill), neu ddarparu dolenni i wefannau neu wasanaethau trydydd parti ("Gwasanaethau Trydydd Parti").

Rydych yn cydnabod ac yn cytuno na fydd BetBlocker yn gyfrifol am unrhyw Wasanaethau Trydydd Parti, gan gynnwys eu cywirdeb, cyflawnder, prydlondeb, dilysrwydd, cydymffurfiaeth â hawlfraint, cyfreithlondeb, gweddusrwydd, ansawdd nac unrhyw agwedd arall arnynt. Nid yw BetBlocker yn derbyn, ac ni fydd ganddo, unrhyw atebolrwydd na chyfrifoldeb tuag atoch chi nac unrhyw berson neu endid arall am unrhyw Wasanaethau Trydydd Parti.

Darperir Gwasanaethau Trydydd Parti a dolenni atynt er hwylustod i chi yn unig, a byddwch yn cael mynediad atynt ac yn eu defnyddio ar eich menter eich hun ac yn ddarostyngedig i delerau ac amodau'r trydydd partïon hynny.





 

Cyfnod a Therfynu

Bydd y Cytundeb hwn yn parhau mewn grym nes iddo gael ei derfynu gennych chi neu gan BetBlocker.

Gall BetBlocker, yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, ar unrhyw adeg ac am unrhyw reswm neu heb reswm, atal neu derfynu'r Cytundeb hwn gyda rhybudd ymlaen llaw neu ddim.

Bydd y Cytundeb hwn yn dod i ben ar unwaith, heb rybudd ymlaen llaw gan BetBlocker, os byddwch yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Cytundeb hwn. Gallwch hefyd derfynu'r Cytundeb hwn drwy ddileu'r Cymhwysiad a'r holl gopïau ohono o'ch dyfais symudol neu'ch cyfrifiadur.

Ar ôl terfynu'r Cytundeb hwn, rhaid i chi roi'r gorau i ddefnyddio'r Cymhwysiad a dileu pob copi o'r Cymhwysiad o'ch dyfais symudol neu'ch cyfrifiadur.

Ni fydd terfynu'r Cytundeb hwn yn cyfyngu ar unrhyw hawliau na rhwymedïau sydd gan BetBlocker yn ôl y gyfraith neu mewn ecwiti os byddwch yn torri'r amodau (yn ystod cyfnod y Cytundeb hwn) o unrhyw un o'ch rhwymedigaethau o dan y Cytundeb hwn.




 

Digolledu

Rydych yn cytuno i indemnio a dal BetBlocker a'i riant‐gwmnïau, is‐gwmnïau, endidau cysylltiedig, swyddogion, gweithwyr, asiantiaid, partneriaid a thrwyddedwyr (os o gwbl) yn rhydd rhag unrhyw hawliad neu gorchymyn, gan gynnwys ffioedd cyfreithwyr rhesymol, o ganlyniad i neu sy'n deillio a) o'ch defnydd o'r Cymhwysiad, neu b) o dorri'r Cytundeb hwn neu unrhyw gyfraith neu reoliad; neu c) o ymyrryd ag unrhyw hawl gan drydydd parti.



 

Dim Gwarantau

Darperir y Cymhwysiad i chi "FEL Y MAE" ac "FEL Y MAE AR GAEL", gyda'r holl ddiffygion a namau a heb warant o unrhyw fath. I'r graddau eithaf a ganiateir o dan y gyfraith berthnasol, mae BetBlocker, ar ei ran ei hun ac ar ran ei endidau cysylltiedig a'i drwyddedwyr a'i ddarparwyr gwasanaethau priodol, yn gwadu'n benodol bob gwarant, boed yn benodol, ymhlyg, statudol neu fel arall, mewn perthynas â'r Cymhwysiad, gan gynnwys pob gwarant ymhlyg o fasnachadwyedd, addasrwydd at ddiben penodol, teitl a pheidio â thorri hawliau, a gwarantau a all godi o drefn drafod, trefn gyflawni, defnydd neu arfer fasnach. Heb gyfyngu ar yr uchod, nid yw BetBlocker yn darparu unrhyw warant nac ymrwymiad, ac nid yw'n gwneud unrhyw ddatganiad o unrhyw fath, y bydd y Cymhwysiad yn bodloni eich gofynion, yn cyflawni unrhyw ganlyniadau arfaethedig, yn gydnaws â neu'n gweithio gydag unrhyw feddalwedd, cymwysiadau, systemau neu wasanaethau eraill, yn gweithredu heb ymyrraeth, yn bodloni unrhyw safonau perfformiad neu ddibynadwyedd, neu'n rhydd rhag gwallau, neu y bydd unrhyw gwallau neu ddiffygion yn gallu cael neu yn cael eu cywiro.

Heb gyfyngu ar yr uchod, nid yw BetBlocker nac unrhyw ddarparwr BetBlocker yn gwneud unrhyw ddatganiad na gwarant o unrhyw fath, yn benodol neu'n ymhlyg: (i) ynghylch gweithrediad neu argaeledd y Cymhwysiad, neu'r wybodaeth, y cynnwys a'r deunyddiau neu'r cynhyrchion sy'n cael eu cynnwys ynddo; (ii) y bydd y Cymhwysiad yn ddi‐dor neu'n rhydd rhag gwallau; (iii) ynghylch cywirdeb, dibynadwyedd neu gyfredoldeb unrhyw wybodaeth neu gynnwys a ddarperir drwy'r Cymhwysiad; neu (iv) bod y Cymhwysiad, ei weinyddwyr, y cynnwys neu'r negeseuon e‐bost a anfonir gan BetBlocker neu ar ei ran yn rhydd rhag firysau, sgriptiau, ceffylau Trojan, mwydod, meddalwedd faleisus, bomiau amser neu gydrannau niweidiol eraill.

Nid yw rhai awdurdodaethau yn caniatâu eithrio neu gyfyngu ar warantau ymhlyg na chyfyngu ar hawliau statudol perthnasol defnyddiwr, felly efallai y bydd rhai neu bob un o'r eithriadau a'r cyfyngiadau uchod yn amherthnasol i chi.




 

Cyfyngu ar Atebolrwydd

Er gwaethaf unrhyw golledion a allai ddod i'ch rhan, bydd atebolrwydd llwyr BetBlocker ac unrhyw rai o'i gyflenwyr o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Cytundeb hwn, a'ch rhwymedi unigryw ar gyfer pob un o'r uchod, wedi'i gyfyngu i'r swm a dalwyd gennych mewn gwirionedd am y Cymhwysiad.

I'r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith berthnasol, ni fydd BetBlocker na'i gyflenwyr, o dan unrhyw amgylchiadau, yn atebol am unrhyw iawndal arbennig, achlysurol, anuniongyrchol neu ganlyniadol o unrhyw fath (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, iawndal am golli elw, colli data neu wybodaeth arall, tarfu ar fusnes, anaf personol, colli preifatrwydd sy'n deillio o ddefnyddio neu anallu i ddefnyddio'r Cymhwysiad, meddalwedd trydydd parti a/neu galedwedd trydydd parti a ddefnyddir gyda'r Cymhwysiad, neu fel arall mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth yn y Cytundeb hwn), hyd yn oed os yw BetBlocker neu unrhyw gyflenwr wedi cael gwybod am y posibilrwydd o iawndal o'r fath a hyd yn oed os bydd y rhwymedi yn methu â chyflawni ei ddiben hanfodol.

Nid yw rhai gwladwriaethau/awdurdodaethau yn caniatâu eithrio neu gyfyngu ar iawndal achlysurol neu ganlyniadol, felly efallai na fydd y cyfyngiad neu'r eithriad uchod yn berthnasol i chi.





 

Toradwyedd

Os bernir bod unrhyw ddarpariaeth yn y Cytundeb hwn yn anorfodadwy neu'n annilys, bydd darpariaeth o'r fath yn cael ei newid a'i dehongli er mwyn cyflawni amcanion y ddarpariaeth honno i'r graddau mwyaf posibl o dan y gyfraith berthnasol, a bydd y darpariaethau sy'n weddill yn parhau ar waith.




 

Ildiad

Ac eithrio fel y darperir yn y Cytundeb hwn, ni fydd methu ag arfer hawl na mynnu cyflawni rhwymedigaeth o dan y Cytundeb hwn yn effeithio ar allu parti i arfer hawl o'r fath neu fynnu cyflawniad o'r fath ar unrhyw adeg wedi hynny, ac ni fydd ildio tor‐amod yn gyfystyr ag ildio unrhyw dor‐amod dilynol.




 

Diwygiadau i'r Cytundeb Hwn

Mae BetBlocker yn cadw'r hawl, yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, i addasu neu ddisodli'r Cytundeb hwn ar unrhyw adeg. Os yw adolygiad yn berthnasol, byddwn yn rhoi o leiaf 30 diwrnod o rybudd cyn i unrhyw delerau newydd ddod i rym. Bydd yr hyn sy'n gyfystyr â newid perthnasol yn cael ei bennu yn ôl ein disgresiwn llwyr.

Drwy barhau i gyrchu neu ddefnyddio ein Cymhwysiad ar ôl i unrhyw ddiwygiadau ddod i rym, rydych yn cytuno i ymrwymo i'r telerau diwygiedig. Os nad ydych yn cytuno â'r telerau newydd, nid ydych wedi'ch awdurdodi mwyach i ddefnyddio'r Cymhwysiad.



 

Cyfraith Lywodraethol

Bydd cyfreithiau'r Deyrnas Unedig, ac eithrio ei rheolau ynghylch gwrthdaro cyfreithiau, yn llywodraethu'r Cytundeb hwn a'ch defnydd o'r Cymhwysiad. Gall eich defnydd o'r Cymhwysiad hefyd fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau lleol, gwladwriaethol, cenedlaethol neu ryngwladol eraill.




 

Actifadu

Drwy actifadu'r offeryn BetBlocker, rydych yn cydnabod eich bod yn deall y bydd yr offeryn hwn yn cyfyngu ar allu eich dyfais i gyrchu gwasanaethau ar‐lein sy'n ymwneud â gamblo. Rydych hefyd yn cydnabod ac yn cytuno na fydd modd tynnu'r offeryn oddi ar eich dyfais am gyfnod yr eithriad a ddewiswyd. Ymhellach, rydych yn cydnabod eich bod yn deall, er y bydd ein tîm cymorth yn gwneud pob ymdrech i'ch helpu i gywiro unrhyw namau neu wallau gyda'r offeryn lle gellir gwneud hynny'n rhesymol, ni fyddant yn eich cynorthwyo i dynnu'r offeryn oddi ar eich dyfais.



 

Cytundeb Cyfan

Mae'r Cytundeb hwn yn ffurfio'r cytundeb cyfan rhyngoch chi a BetBlocker ynghylch eich defnydd o'r Cymhwysiad ac mae'n disodli pob cytundeb ysgrifenedig neu lafar blaenorol a chyfoes rhyngoch chi a BetBlocker.

Gallwch fod yn ddarostyngedig i delerau ac amodau ychwanegol sy'n berthnasol pan fyddwch yn defnyddio neu'n prynu gwasanaethau eraill BetBlocker, a ddarperir gan BetBlocker i chi ar adeg defnyddio neu brynu'r gwasanaethau hynny.




 

Gwybodaeth Gyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y Cytundeb hwn, cysylltwch â ni drwy admin@betblocker.org.